Noder nad ydym yn gallu delio â chwynion yn ymwneud â derbyn negeseuon testun digymell, galwadau mud na thonau ffacs dros y ffôn yn anffodus.
Cyn cwblhau'r ffurflen gwynion TPS, darllenwch yr wybodaeth bwysig ganlynol.
Mae'r Gwasanaeth Dewis Ffôn yn hapus i gynnig gwasanaeth delio â chwynion fel gwasanaeth gwerth ychwanegol, fodd bynnag, nid ni yw'r corff sy'n gyfrifol am orfodi ac ni allwn weithredu yn erbyn cwmnïau y cwynir amdanynt. Mae cwynion y bydd TPS a TPS Corfforaethol yn delio nhw wedi eu cynnwys mewn adroddiad rheolaidd a anfonir at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Yr ICO yw'r corff sy'n gyfrifol am orfodi.
Yn anffodus ni allwn fynd i'r afael â chwynion yn ymwneud â:
• derbyn negeseuon testun digymell • tonau ffacs dros y ffôn
Fodd bynnag, rydym yn gweithio'n agos gyda chyrff y diwydiant ac Ofcom i atal galwadau niwsans mud a thonau ffacs dros y ffôn.
Bydd cofrestru rhif neu rifau ffôn symudol gyda TPS a CTPS yn lleihau galwadau gwerthiant a marchnata digymell yn unig. Ni fydd yn cael effaith uniongyrchol ar leihau negeseuon testun. Mae deddfwriaeth newydd, a ddaeth i rym ar 11 Rhagfyr 2003, yn ei gwneud yn anghyfreithlon i anfon SMS marchnata uniongyrchol digymell at danysgrifiwr unigol oni bai bod y derbynnydd wedi rhoi caniatâd yn flaenorol i gyfathrebu o'r fath. Gall tanysgrifwyr corfforaethol ofyn yn benodol dan y Ddeddf Diogelu Data 1998 i beidio derbyn SMS marchnata uniongyrchol digymell. Unwaith eto, swyddfa'r ICO sy'n gyfrifol am orfodi. Os hoffech gysylltu â'r ICO, cliciwch ar y dudalen dolenni defnyddiol i gael eu manylion. Dewiswch y math o rif yr oeddech wedi cofrestru'n wreiddiol:Unig fasnachwrPartneriaethCwmni cyfyngedigPLCPreswyl